Alun Gibbard: Pwysigrwydd y Stori

Profile picture of Dafydd Jones
Dafydd Jones November 25, 2020

Awdur: Dafydd Jones

O weithio ym maes darlledu am 26 o flynyddoedd i gyhoeddi 33 o lyfrau fel awdur, mae Alun Gibbard yn mynnu mai’r peth pwysicaf yn ei yrfa yw’r stori.

“Trwy teledu ac ysgrifennu, dwi wedi cadw’r ddwy iaith, ac mae’n bwysig i mi. Dwi ddim dim ond eisiau ysgrifennu’n Saesneg neu dim ond yn Gymraeg. Ond ar ddiwedd y dydd, os ydw i’n cyfuno newyddion, dogfennau ac ysgrifennu cylchgronnau neu llyfrau, yr un peth sy’n cysylltu nhw i gyd yw stori,” dywed Gibbard.

“Dweud storiau sy’n bwysig, dyna ydw i’n fwynhau fwyaf. Dim llenyddiaeth Cymraeg neu lenyddiaeth Saesneg yn unig, dwi’n mwynhau rheini, ond storiau dwi’n hoffi. Darganfod y stori a gweld beth yw’r stori a wedyn y sialens o ffordd i ddweud y stori mewn ffordd fod pawb yn ei ddeall e.”

Yn ei yrfa fel awdur, mae Gibbard wedi gweithio gyda nifer osêr y byd chwaraeon, megis Jonathan Davies a George North. Esbonia’r awdur y broses o gyd-ysgrifennu a chynhyrchu stori.

“Dwi wedi cyd-ysgrifennu sawl llyfr, gyda’r fath yna o lyfr, mae’r broses yn wahanol,” mynodd Gibbard.

“Mae’n rhaid i chi fynd fewn i byd rhywun arall, deall y byd yna mewn ffordd digon manwl bod chi’n gwybod am beth ydych chi’n dweud a chyflwyno byd rhywun arall i’r cyhoedd mewn ffordd fod y cyhoedd yn deall.

“Mae hynny’n eithaf tasg achos mae’n rhaid i chi fod yn deg gyda’r person ydych chi’n gwneud y stori gyda ond eto i gyd, i fod yn gallu cyflwyno fe fel bod pobl sy’n gwybod dim am y stori’n gallu deall e hefyd.

“Mae’r cydbwysedd yna’n gallu bod yn anodd a na fyswn i’n gallu dweud fy mod i wedi cael e’n iawn bob tro mae’n siwr. Gallech chi fod yn or-syml a sarhau’r pobl ydych chi’n gweithio hefo, neu allech chi wneud e mor fanwl bod y cyhoedd ddim yn deall e, rydych chi wedi methu wedyn.”

Nid yn unig ym maes chwaraeon gwelir llwyddiant llyfrau Gibbard, gyda’i fywgraffiad diweddaraf, ‘Not Just Politics’ ,yn canolbwyntio ar Carwyn Jones.

“Rhaid penderfynu beth mae’r person eisiau dweud a pam mae nhw’n gwneud y llyfr. Pwy stori mae nhw eisiau cael allan yna?

“Er enghraifft, y llyfr mwyaf diweddar dwi wedi gwneud oedd am gyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Cyfarfod cyntaf gyda Carwyn oedd sefydlu gyda fe beth oedd e eisiau yn y llyfr. Dywedodd e’n syth nad oedd o eisiau political memoir, ond bywgraffiad sy’n dangos popeth yn fy mywyd i, y wraig, y plant, y teulu a nid political memoir a gan mai dyna oedd o eisiau, mi wnes i neud e. Mae penderfynu’r stori mae rhywun eisiau dweud yn bwysig ac mae hwna’n wir gyda pawb.

“Ar ôl gweithio hynny mas, y ffordd dwi’n cyd-ysgrifennu, dwi’n cwrdd â nhw ac yn recordio sgwrs, fel arfer rhyw awr ar y tro. Dwi’n dechrau reit ar ddechrau bywyd nhw tan y diwrnod presennol, felly mae gennai stori cronolegol o’i fywyd nhw wedi recordio.

“Ond, dwi byth yn ysgrifennu llyfrau’n gronolegol, does dim byd mwy diflas nag ysgrifennu ‘mi ges i fy ngeni yn a wedyn wnes i hyn’. Pan dwi’n gwrando ar eu bywydau nhw, fe ddaw rhywbeth sy’n stori dda i ddechrau llyfr ac i ddangos stori’r person.

Un o lyfrau mwyaf poblogaidd Gibbard yw ‘Who Beat the All Blacks?’, pwnc sy’n agos i’w galon yn dod o Lanelli ei hun.

“Roeddwn i yn y gêm hefyd, roedd e’n anrhydedd, o’n i wrth fy modd. I fynd heibio’r personol, i edrych arno fe fel tasg, roedd e’n anodd i weithio allan beth o’n i eisiau dweud a beth yw’r stori. Beth oeddwn i eisiau dweud am gêm mae bron pawb yn y byd rygbi’n gwybod yn barod?

“Roedd rhaid penderfynu’n ofalus iawn ac roedd o’n anodd achos roedd llawer wedi cael ei ddweud yn barod, ond mae’n rhaid darganfod beth sydd gennych chi’n wahanol i ddweud am rywbeth mae pobl yn gwybod amdano fe. Beth yw eich cyfraniad chi i’r stori?

“Mi wnes i droi fe’n un cwestiwn, Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd wedi curo’r All Blacks, ond beth mae pawb yn cofio? Gêm Llanelli. Cwestiwn fi oedd pam? Pam oedd gan gêm Llanelli gymaint o arwyddocâd, gymaint o effaith a tri tîm arall o Gymru wedi curo’r All Blacks hefyd, beth oedd y gwahaniaeth? Roedd rhywbeth gyda fi i ddechrau wedyn. Beth oedd yn arbennig am y digwyddiad yna, a wedyn yn dod o hyd i resymau.

“Y cyntaf oedd Carwyn James, blwyddyn cyn hynny wedi helpu’r Llewod i guro’r All Blacks yn 1971, y tro cyntaf a’r unig dro i’r Llewod ennill gyfres mas yn Seland Newydd. Daeth yr All Blacks nôl ar dir Carwyn i ddial, roedd hynny’n un peth. A wedyn natur y dre, tref gweithiol gyda pobl cyffredin. Roedd yr bois i gyd wedi dod at ei gilydd, roedd yr angerdd yna.”

Er bod y llyfr yn un boblogaidd iawn yn y byd rygbi bellach, esboniodd Gibbard daeth her yn y broses o gyflawni ei dasg o gyflwyno’r stori yn y llyfr.

‘’Beth dangosodd yr llyfr All Blacks i fi mwy na unrhyw llyfr arall yw pa mor bwysig yw profi ffeithiau, mae hi mor bwysig. Un enghraifft, roedd y gêm yn enwog am sawl rheswm, ond mi wnaeth Delme Thomas, y capten, araith cyn y gêm, rhywbeth sydd yn mynd lawr yn folklore rygbi, roedd o’n ysbrydoledig.

“Ond, cefais i wahaniaeth barn o lle oedd Delme wedi weudyr araith. Roedd rhai o’r chwaraewyr yn dweud mai yn y gwesty cyn y gêm a chwaraewyr eraill yn dweud mai yn yr ystafell newid. Beth ydw i’n wneud? Dwi fel awdur yn ysgrifennu am ddigwyddiad chwaraeon efo hanner y chwaraewyr yn dweud oedd o yn yr gwesty a hanner arall yn dweud wnaeth o fo yn yr ystafell newid. Pwy ti’n credu? Dilemma go iawn.

“Beth wnes i yn y diwedd oedd mynd yn ôl atyn nhw i gyd a dros amser fe ddaeth ddarlun. Mi wnaeth o’r prif araith yn yr hotel cyn mynd ond wnaeth o un arall byr yn y dressing room cyn mynd ar y cae felly roedd y ddau yn iawn. Cymerodd hwnna amser i wneud yn siwr.”

Er bod y digwyddiad yn un mawr yng nghyd-destun y byd chwaraeon, gyda’r All Blacks yn eiconig am fod y goreuon, mynnodd Gibbard fod y llyfr am fwy na gêm o rygbi.

“I fi, does fawr ddim am yr 80 munud yn y llyfr mae o’i gyd o gwmpas e. A dyna beth yw chwaraeon i fi. Pan dwi’n ysgrifennu am chwaraeon, does gen i ddim diddordeb yn yr ystadegau neu tactegau.

“I fi, dwi’n hoffi ysgrifennu am lle mae chwaraeon yn cymryd eu lle yn y gymdeithas. Sut oedd gêm Llanelli yn erbyn All Blacks yn effeithio ar gymuned Llanelli ac ar gymuned rygbi, nid yr 80 munud. Social history yw chwaraeon i fi.”