Cwestiwn ac Ateb #1: Lo-Fi Jones

Profile picture of Dafydd Jones
Dafydd Jones June 24, 2021

Awdur: Dafydd Jones

Yng nghyfres newydd cwestiwn ac ateb ar St David’s World, ein cyfweleion gyntaf yw band Indi-Gymraeg Lo-Fi Jones.

Sefydlwyd gan ddau frodyr Liam a Siôn Rickard yn 2020, mae’r band yn barod wedi cael llwyddiant gyda chaneuon fel Cân i’r Gaeaf: Mari Lwyd, Cadw Ffydd a Ble Rwyt Ti’n Myned.

Hefyd yn ran o gymuned gwerin rhyngwladol, mae’r brodyr yn rhannu eu profiadau o deithio a chydweithio gyda cherddorion o Ffrainc, Algeria, Lloegr a Brasil!

Wnaethoch chi gychwyn mewn band o’r enw Naughty Magic Simon yn neud gigs yn yr ardal leol, gallech chi ddweud ychydig iddyn ni am hynny?

Wnaethon ni ddechrau’r band yna yn ein harddegau ni, a’r enw sy’n ddiddorol. Pan oeddwn i’n bedair blwydd oed, nes i ofyn i fy nhad sut mae’r lampiau stryd yn troi ymlaen a wnaeth o ddeud ‘automatic timing’ a nes i glywed ‘Naughty Magic Simon’. Mae ‘na ddyn ar ein stryd ni o’r enw Simon ac roedden ni’n credu mai Simon oedd yn troi’r lampiau stryd ymlaen! Pan wnaethon ni ddod i greu’r band, wnaethon ni lot o gigs, gan gychwyn yn yr ysgol. Roedd ‘na glwb yn yr ysgol yn hen Golwyn o’r enw Clwb Miwsig Newydd a dyna oedd ein cyngerdd cyntaf ni, yn eu sioe nhw. Roedden ni wastad yn chwarae rock ond folk rock, felly ychydig yn wahanol!

Rydych chi’n ran o gymuned gwerin rhyngwladol, gallech chi fanylu ar hynny a faint ydy hynny’n meddwl i chi?

Wnaethon ni ddechrau gwneud yr Ethno World camps a ti’n gwneud gymaint o ffrindiau. Nid yn unig ethno camps sydd yna ond ‘folk marathons’ gyda phedwar neu bum diwrnod o bobl yn chwarae cerddoriaeth a dawnsio. Rydan ni’n dysgu caneuon Cymreig i bobl eraill ac yn cael dysgu pob math o gerddoriaeth. Mae gynnon ni ‘repertoire’ eithaf eang. Mae o mor bwysig i ni!

Pa fath o brofiadau ydych chi wedi bod yn rhan ohono fo gyda’r gymuned gwerin?

Mae ‘na gymaint ohonyn nhw! Chwarae cerddoriaeth ar gwch lawr y canal yn Gent yng Ngwlad Belg. Roedd ‘na grŵp o Algeria yn chwarae cerddoriaeth Gnawa, sydd yn gerddoriaeth ysbrydol a myfyriol, mae’n rili hwyl. Wnaethon ni chwarae a neud fusion hefo nhw, oedd hynny’n hwyl.

Aethon ni i’r Pyrenees a gwneud cyngerdd gyda folk orchestra mewn gŵyl, roedd hynny’n anhygoel. Ym Mhortiwgal, mi wnaeth fy sacsoffon ddisgyn oddi ar y llwyfan a mynd yn fflat. Roedd rhaid i fi geisio trwsio fo adref!

Ac wrth gwrs, mae’n rhaid i ni sôn am y transit van coch! Aethon ni ar folk marathon, un ym Mhortiwgal. Aethon ni gydag un ffrind oedden ni’n nabod, a neb arall yn nabod ei gilydd yn dda iawn. Aethon ni ar antur yng nghanol y Gaeaf, trwy Ffrainc, Gwlad Belg a Portiwgal. Ar y dechrau, doedd na neb yn nabod ei gilydd yn dda iawn ond erbyn y diwedd, roedd pawb yn y fan yn ffrindiau gorau a rydan ni dal yn cwrdd erbyn heddiw. Ar y ffordd nôl, gyrron ni i’r Tŵr Eiffel ac aethon ni allan o’r fan a chwarae cerddoriaeth yna am 2 o’r gloch y bore!

O ran cael y profiad o weld bob math o draddodiadau a diwylliannau, pa mor bwysig yw hynny i chi?

Mae o’n hynod o bwysig. Wrth gwrs, mae’n ddiddorol ac yn ehangu diwylliant ni a’n gweledigaeth ni o’r byd. Ond mae’r gymuned yn fwy pwysig na hynny achos ti’n mynd tu hwnt i’r ffiniau. Rydan ni’n byw mewn byd sydd mor rhanedig ac yn y gymuned yma, mae pob diwylliant yn bwysig. Mae pawb efo traddodiadau gwahanol a rydan ni’n medru rhannu nhw a dysgu nhw. Ar ôl i chi neud camp ethno, mae’n newid chi ac mae’n rhaid mynd nôl. Mae ‘na gymaint o amrywiaeth a rydan ni’n dathlu hynny.

Mae cynllun gyda chi i sefydlu Ethno Camp yng Nghymru, beth ydy’r weledigaeth am hynny?

Dydy’r cynlluniau ddim yn set eto, dydyn ni ddim yn natural organisers! Rydan ni’n gyffrous am sefydlu camp ac ynmeddwl ein bod ni’n gwybod lle i’w osod, sef yn CAT ym Machynlleth. Bydd o’n gyfle i bobl weld Cymru a gallwn ni roi croeso Cymraeg iddyn nhw a rhannu ein diwylliant ni. Hefyd, bydd o’n gyfle i bobl i rannu eu traddodiadau nhw gyda ni yng Nghymru. Byddwn ni’n creu band mawr rhyngwladol ym Machynlleth!

Yn 2019, cafodd Lo-Fi Jones ei sefydlu, beth oedd y rheswm tu ôl hynny?

Roedden ni wedi bod ar wahân am amserau hir yn byw mewn gwahanol ddinasoedd, ond yn 2019, roedden ni’n dal eisiau creu rhywbeth fel brodyr. Roedd ganddom ni ganeuon roeddem ni wedi ysgrifennu ac roedden ni eisiau ysgrifennu mwy. Mi wnaethon ni lansio prosiect newydd ac aethon ni drwy sawl gwahanol enw, ond penderfynon ni ar Lo-Fi Jones yn y diwedd. Roedden ni braidd yn drist i adael ‘Naughty Magic Simon’ y tu ôl i ni, ond roedden ni angen cychwyn yn ffres. Roedd Lo-Fi oherwydd ein bod ni braidd yn DIY a ‘rough around the edges’ a Jones oherwydd mae ‘na gymaint o Joneses yn canu’n Gymraeg.

Mae gynnoch chi gân o’r enw Cadw Ffydd, pam fod hynny’n gân sbesial i chi’n bersonol?

Gaethon ni ysbrydoliaeth gan grŵp Facebook ‘Côr-ona’ ac roedd pawb yn rhannu caneuon. Roedd o fel ‘open mic’ neu eisteddfod ar Facebook. Roedd o’n hynod lyfli. Roedd y gân i geisio godi gwên ac i drio rhannu teimlad o obaith. Mae’n gân am y dyfodol, ac mae’n trafod nifer o broblemau, nid yn unig covid ond pethau fel newid hinsawdd. Mae hefyd yn gân am gymuned a theimlad o gartref. Cawsom ni ein radio play cyntaf ni ar BBC Radio Cymru gyda’r gân hefyd!

Yn ddiweddar, rydych chi wedi gweithio ar gân o’r enw Ble Rwyt Ti’n Myned gydag Irfan Rais a Catrin Toffoc, gallech chi fanylu ar y prosiect yna?

Syniad ein chwaer ni oedd hynny am ei bod hi’n astudio ffilm yn y brifysgol. Roedd hi isio creu ffilm ddogfen am y gymuned werin yng Nghymru. Mi wnaethon ni gynnig iddi siarad gyda Catrin ac Irfan a mi wnaeth Irfan ddysgu’r gân Ble Rwyt Ti’n Myned i ni.

Mae Irfan yn dod o Singapore ac yn siarad Cymraeg yn rhugl. Dydy o heb gael gwers Gymraeg, dim ond wedi dysgu drwy wrando! Dydy o ddim yn unig yn arbenigo mewncerddoriaeth draddodiadol Gymreig, ond hefyd yn gwneud cerddoriaeth glasurol, Arabaidd, Indiaidd, Gwyddelig a hefyd yn arbenigo mewn pop Almaenig! Mae o mor ddiddorol.

Mi wnaeth y prosiect hefyd adael i ni weithio gyda Catrin Toffoc. Hi wnaeth sefydlu’r grŵp Facebook ‘Côr-ona’. Mae hi mor gyfeillgar ac yn canu’n hyfryd. Wnaethon ni gyd weithio gyda’n gilydd dros y we ar Ble Rwyt Ti’n Myned, rhoi’r gân ar Youtube a’i anfon at BBC Radio Cymru.

Rydych chi’n ysgrifennu caneuon yn Gymraeg, pa mor bwysig yw cerddoriaeth i ddiwylliant Cymru?

Mae’n bwysig iawn, nid yn unig i’n hunaniaeth ni fel Cymry, ond hefyd i ddiwylliant Cymru ac i gadw’r iaith yn fyw. Mae Cymru’n wlad lle mae’r diwylliant wedi bod dan fygythiad am y canrifoedd diwethaf, ond yn enwedig yn y ddwy ganrif ddiwethaf. Mae’n holl bwysig i bobl rannu eu diwylliannau a’u hieithoedd a dathlu amrywiaeth. I’r iaith Gymraeg, mae cerddoriaeth yn gallu helpu i gadw diwylliannau gan ei fod yn ffordd o fynegi ein hunain fel Cymry ond hefyd yn helpu eraill i ddysgu’r iaith. Mae cerddoriaeth hefyd yn ffordd i ni deimlo’n rhan o Gymru.

Faint o botensial sydd i St David’s World greu rhwydwaith byd-eang o Gymry?

Mae ‘na botensial enfawr. Mae ‘na rwydwaith yn barod, ond mae angen cadarnhau hynny ac ehangu arno. Yn ôl sôn Irfan, mae ‘na gymuned Gymreig yn Singapore a rydan ni’n nabod siaradwyr Cymraeg yn Llundain a Nottingham. Hefyd yn Siapan, mae ‘na lawer o Gymry yno. Yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd, roedd na lawer o bobl yn Siapan yn dysgu caneuon Cymreig ac roedd hynny’n sbesial. Mae ‘na botensial enfawr i greu rhwydwaith a chysylltu pobl o gwmpas y byd!