Ein stori
Yn 2003, roedd Tim Openshaw yn byw yn Singapore. Roedd yn gyffrous am y ffaith bod Cwpan Rygbi’r Byd yn agosáu, ond roedd ganddo broblem fach – doedd e ddim yn adnabod unrhyw gefnogwyr Cymru lleol eraill i wylio’r gemau gyda nhw.
Anfonodd Tim wahoddiad e-bost agored i’w holl gysylltiadau lleol, yn galw ar unrhyw gefnogwyr o Gymru i gyfarfod mewn lleoliad lleol, a gofynnodd i bawb ledaenu’r gair.
Ar ddiwrnod y gêm, cyrhaeddodd 300 o gefnogwyr Cymru, gyda phob un ohonynt yn chwilio am yr awyrgylch a’r un teimlad o hunaniaeth Gymreig.
Daethant o hyd i’w Byd.

Llwyfan i Gymru
St David’s yw’r llwyfan cymdeithasol i bob peth sy’n ymwneud â Chymru.
Rydym yn rhoi llais i bobl angerddol, brwdfrydig ac ymroddedig sy’n uniaethu â Chymru i rannu eu straeon, ac i ysbrydoli eraill ledled y byd i wneud yr un peth.
Mae’r llwyfan yn cynnig offer adeiladu cymunedau, er mwyn i bobl greu presenoldeb ar-lein ar gyfer eu lleoliad neu eu diddordeb go iawn.
Drwy gymryd rhan, rydych chi’n helpu i adeiladu presenoldeb Cymreig ledled y byd, fel y gallwn ddweud wrth y byd i gyd pa mor wych yw Cymru.
Croeso i St David’s World.

Ein cenhadaeth.
Creu presenoldeb Cymreig ym mhob cwr o'r byd, fel y gallwn uno mewn un llais a dweud wrth y byd pa mor wych yw Cymru.
Sut mae’n gweithio
Beth allwch chi ei wneud
Cynnal
Creu eich cymuned eich hun
Ymuno
Ymuno â nifer o gymunedau ledled y byd
Rhyngweithio
Cysylltu ag aelodau eraill o'r gymuned
Adeiladu
Rhannu eich straeon a'ch angerdd dros Gymru gyda phobl o'r un anian
Tyfu
Creu presenoldeb Cymreig yn eich ardal leol
Ffynnu
Uno i gryfhau’r ôl troed Cymreig yn fyd-eang
Cwrdd â’r tîm
O’n blog
Oes gennych chi stori i’w rhannu? Cysylltwch â ni!