Beth sydd ymlaen?
Cymru yn Llundain: Dathliad Dydd Gŵyl Dewi 2021 – Cymry’r West End
Dyddiad: 1st March @ 06:30pm
Lleoliad: Online
Gwesteiwr: Cymru yn Llundain
Beth yw hyn?
Mi fyddwn yn cyflwyno noson o adloniant ar nos Lun, Mawrth y 1af gyda lleisiau Welsh of the West End (www.welshofthewestend.com). Y darlledwr gwleidyddol adnabyddus, Guto Harri fydd yn llywio’r digwyddiad a fydd yr Athro Mererid Hopwood yn ymuno gyda ni eleni eto i gynnig llwncdestun i goffadwriaeth Dewi Sant.
‘Gwnewch y pethau bach’ yw geiriau enwocaf Dewi Sant, ac efallai ei fod nemor ystum fach ym myd hynod newidiol Covid, ond gobeithio y byddwch yn medru ein helpu i barhau â thraddodiad cynnal Dathliad Gŵyl Dewi yn Llundain trwy brynu tocyn, gwisgo cenninen Pedr, ac ymuno â ni am noson o ddathliad Cymreig.
Bu rhagflas o’r noson ar rhaglen ‘Heno’ ar S4C yn ddiweddar – gallwch wylio’r cyfan fan hyn: https://www.s4c.cymru/clic/programme/807474378
Sut mae ymuno?
Tocynnau ar gael yma: https://momenthouse.com/stdavidsdaycelebration
Bydd elw yn mynd tuag at gefnogi perfformwyr Welsh of the West End a bydd cyfle i roi rhodd pellach i gefnogi’r sêr Cymreig aruthrol o dalentog rhain Bydd cyfle hefyd i gefnogi ein partner elusennol, Sefydliad Cymunedol Cymru www.communityfoundationwales.org.uk wrth i ni unwaith eto eleni gydnabod derbynnydd y Wales in London Philanthropic Fund.
Mwy o wybodaeth
Gallwch ddarganfod mwy am Cymru yn Llundain ar gyfryngau cymdeithasol!
Instagram: @wales_in_london
Twitter: @wales_in_london