Robert a Meagan Davis: Y cwpl o Alabama sy’n dysgu Cymraeg mewn wrogaeth i etifeddiaeth y teulu

Profile picture of Dafydd Jones
Dafydd Jones November 18, 2020

Awdur: Dafydd Jones

Dywed Robert a Meagan Davis, cyd-awduron rhandaliad Cymru o gyfres ‘The Tattoo Handbook’, yn aeu stori am eu hetifeddiaeth, dysgu iaith dramor a chryfhau rhwydwaith byd-eang.

Daw teulu Robert o Merthyr yn wreiddiol a symudwyd I’r Unol Daleithiau America i weithio yn y diwydiant glo.

Ganrif a hanner wedyn, penderfynodd y teulu Davis i ddysgu’r iaith Gymraeg.

“Ymfudodd fy nheulu o Gymru tua 150 mlynedd yn ôl,” meddai Robert.

“Treuliais amser yn byw yn y Deyrnas Unedig fel plentyn. Rydw i wedi bod yng Nghymru sawl gwaith ac wedi meddwl am ddysgu Cymraeg.

“Mae’n anodd. Yr un peth dwi bob amser yn hoffi dweud wrth bobl yw fy mod i’n teimlo, ar lefel dechreuwr, y gallwch chi ddysgu’r sylfaenau o’r Gymraeg yn haws nag y gallwch chi ddysgu lawer o ieithoedd y mae pobl yn eu hastudio’n fwy cyffredin.

“Dim ond pan fyddwch chi’n dechrau mynd y tu hwnt i hynny y byddwch chi’n darganfod nad yw’n rhyfedd ar yr arwyneb, mae o wir yn anodd. Ond wedyn, gallwch chi fatriciwleiddio’n llawn. Rwy’n credu ei fod yn codi calon y bobl sydd newydd ddechrau, bod chi’n dechrau codi geirfa a gallwch chi ddweud llawer o bethau! ”

Roedd gan wraig Robert, Meagan, brofiad o ddysgu ieithoedd cyn dechrau dysgu’r Gymraeg a dywed hi roedd hyn yn gymorth mawr iddi.

“Rydw i o hyd wedi bod yn fath o ‘nerd’ ieithoedd,” meddai.

“Roedd fy mhrofiad blaenorol gyda Ffrangeg ac Almaeneg, wedi helpu. Mae pobl sydd wedi dysgu ieithoedd eraill yn cael amser haws gyda’r Gymraeg, ond mae’n iaith wahanol iawn. Mae wedi bod yn hwyl serch hynny, rydw i wedi mwynhau’r her.

“Mae gen i gefndir Celtaidd, yr Alban a Gwyddelig yn bennaf, dim cefndir Cymraeg go iawn, ond mi wnaeth Rob gynnig i mi ymuno ag ef ar gwrs Cymraeg yr oedd wedi o bod yn ei fynychu’n flynyddol gyda Cymdeithas Madog a dyna oedd fy nghyfle cyntaf i ddysgu Cymraeg.

“Roeddwn i’n teimlo pwysigrwydd o drosglwyddo’r Gymraeg i’n plant yn y dyfodol, a nawr bod gennym ni ferch ddwy oed, rwy’n falch ein bod ni wedi gwneud hynny.”

Mynodd Robert a Meagan eu bod wedi adeiladu bondiau cryf wrth ddysgu Cymraeg, mewn cymuned gynyddol o ddysgwyr.

“Mae gennym ni gymuned ar-lein eithaf iach. Rydyn ni’n cyfathrebu â phobl mewn rhannau eraill o’r UDA yn weddol aml, ”meddai Meagan.

“Mae’r gymuned o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg wedi’i rwydweithio’n eithaf tynn. Mae pobl yn cwrdd mewn cyrsiau ac yn cyfathrebu ar-lein.

“Dyna un o’r pethau rhyfeddol am gymuned dysgu Cymru, mae nhw wedi bod yn groesawgar iawn. Deuthum i mewn fel dechreuwr llwyr, ond mae’n hawdd iawn gwneud ffrindiau gyda pobl gan eu bod nhw’n gyffredin.

“Mae’r bobl sydd eisiau dysgu Cymraeg yng Ngogledd America yn bobl hyfryd, yn gynnes iawn ac mewn ffordd, maen nhw’n adlewyrchu’r rhan fwyaf o’r bobl Gymreig rydyn ni’n eu hadnabod.”

Mae’r teulu Davis yn credu y bydd pŵer y rhyngrwyd yn allweddol yn nhwf yr iaith yn y dyfodol.

“Mae cymunedau ar-lein wedi mynd yn bell,” mynnodd Meagan.

“Mae Cymdeithas Madog yn gweithio ar hyn o bryd i gael rhyw fath o sesiynau sgwrsio bob mis er mwyn i bobl glywed pobl eraill yn siarad Cymraeg. Mae cynyddu’r cyfleoedd gyfathrebu hynny’n bwysig.”

“Rydyn ni wedi gweld llawer o ddiddordeb yn yr iaith,” ychwanegodd Robert. “Mae nifer y bobl sy’n ceisio dysgu Cymraeg ar ben eu hunain wedi tyfu’n sylweddol a’r peth mawr rydyn ni’n dal i glywed yw bod angen y cyfle i ymarfer a chlywed rhywun yn siarad Cymraeg sy’n gwybod beth maen nhw’n ei wneud ac yn hyderus.

“Gallant glywed hynny a chael eu siapio gan hynny. Pe bai mwy o’r cyfleoedd hynny yn cael eu hannog, yna gallaf weld hynny’n cryfhau cymuned fyd-eang dysgwyr a siaradwyr Cymru yn naturiol.”

Mae Robert a Meagan yn gyd-awduron ‘The Welsh Tattoo Handbook: Authentic Words and Phrases in the Celtic Language of Wales’, sy’n helpu’r rhai sydd eisiau tatŵ yn Gymraeg i osgoi camgymeriadau costus fel sillafu neu gramadeg.

Mynodd y pâr fod y cyfle i fod yn ran o randaliad Cymraeg y gyfres yn un a ddisgynnodd ar garreg eu drws.

‘’Mae un o’n ffrindiau sy’n siarad Cymraeg yn ffrindiau gyda’r cyhoeddwr ac roeddem yn gwybod bod y cyhoeddwr eisiau ychwanegu Cymraeg at y gyfres o lawlyfrau tatŵ Celtaidd. Roedd ein ffrind wedi argymell ni i’r cyhoeddwr a dyna sut ddaeth y cysylltiad,” meddai Robert.

“Fe wnaethon ni gynnig cynllun y llyfr i’r cyhoeddwr er mwyn dangos roedden ni’n gwybod am beth oedden ni’n siarad, ac roedden ni’n teimlo ein bod ni i gyd ar yr un donfedd.

“Dyna sut ddaeth y cyfle, fe syrthiodd o arnon ni mewn gwirionedd. Dwy flynedd a hanner o waith wedyn, fe ddaeth yn llyfr. Roedd o’n gyffrous ac yn braf ceisio gwneud rhywbeth dros yr iaith.

‘’Rydym ni’n angerddol am gynrychiolaeth Cymraeg yn y byd. Mae’n ffordd hwyl i rywun gysylltu â’u hetifeddiaeth.

“Nid oes angen Cymraeg anghywir yn y byd. Bob tro y byddwch chi’n gweld un o’r arwyddion sydd wedi cael ei gam-gyfieithu, rydych chi’n ymgreinio.

“Felly, mae’r ffaith fod rywun sydd eisiau cysylltu â’u treftadaeth yn unig, o bosib yn cerdded o gwmpas gyda tatŵ sy’n dweud ‘Cymru am ddim’ yn lle ” Cymru rhydd ” yn gwneud di’n sâl, felly dwi’n awyddus i helpu!

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd rhai pobl, sy’n dod ar draws Cymraeg yn y llyfr, yn cael eu hannog i feddwl y gallan nhw wneud mwy na chael tatŵ yn unig, ac os yw hynny’n rhywbeth y gallwn ni eu helpu gyda nhw, y gorau ôll!”